Pobun

Ciw-restr ar gyfer Mam Pobun

(Y Criwr) Pell ac agos yma dewch,
 
(Pobun) Dos di a dwg i mi'r dangosiad cymwys am yr arian, tra bwyf innau yn ei chyfarch hi.
(0, 3) 220 Fy mab, y mae'n llawen gennyf dy weled, canys mawr boen i'm calon yw na bydd gennyt nemor amser i ymddiddan â mi, gan faint dy brysurdeb gyda phethau'r byd.
(Pobun) Mae awel yr hwyr yn ddrwg ei naws, a'ch iechyd chwithau'n wan a bregus, fel na allaf beidio â phryderu wrth eich gweled yma.
 
(Pobun) Oni ddowch i mewn i'r tŷ?
(0, 3) 223 A ddoi di gyda mi ac aros gartref?
(Pobun) Am heno ni all hynny fod.
 
(Pobun) Am heno ni all hynny fod.
(0, 3) 225 Felly, ni ddigi di ddim wrthyf am dy gadw yn y fan yma.
(Pobun) Poeni yr wyf am eich iechyd chwi—hwyrach y caem ryw gyfle eto.
 
(Pobun) Poeni yr wyf am eich iechyd chwi—hwyrach y caem ryw gyfle eto.
(0, 3) 227 Am fy iechyd i nid rhaid iti mo'r poeni; yr wyf i eisoes ag un troed yn y bedd; nid oes arnaf i ddim pryder am fy iechyd yn y byd yma, ond yn hytrach am fy iechydwriaeth yn y byd tragywydd.
(0, 3) 228 Ai tynnu wyneb yr wyt ti, fy machgen i, pan fyddaf yn sôn am hynny?
(0, 3) 229 Ac a fyddai'n beth annymunol gennyt pe bawn i'n gofyn iti a yw d'enaid ti'n troi tuag at Dduw?
(0, 3) 230 Ai ymystwyrian a fynni di a cholli d'amynedd?
(0, 3) 231 Ai dewisach gennyt fod yn euog o bechod [yn hytrach na throi i mewn i ti dy hun o ddifrif a meddwl fel y dylit am dy Dduw?
(0, 3) 232 Ac eto, rhwng heddiw ac yfory, gallai ddyfod cennad oddi wrtho ef yn sydyn a'th alw ger bron Gorsedd ei farn Ef i roddi iddo Ef gyfrif clir o'th holl fywyd ar y ddaear.]
(Pobun) [Fy mam, nid gwawdio yw f'amcan i, ond mi wn mai hoff iawn gan yr offeiriaid fwgwth pobl; dyna'u hunig amcan yn y byd—lladd ar gyfoeth, os gennym ni y bydd, er mwyn ei gael at eu gwasanaeth eu hunain.
 
(Pobun) Gresyn yw meddwl na wnant ddim ond pwnio rhyw syniadau tywyll ym mhennau hen bobl a rhai afiach.]
(0, 3) 235 [Yn rhywle arall y bydd y tywyllwch yn dew, ond clir a golau yw'r syniadau hyn.
(0, 3) 236 Y sawl a wnêl ddaioni yn ei ddydd, daw cadernid bryd i hwnnw, a bydd hwnnw orfoleddus yn awr angau, am y bydd iddo ef ddedwyddwch.
(0, 3) 237 O, y sawl a gofio yn ei galon bob amser am awr angau, am hwnnw nid rhaid i galon mam ddwyn na phryder na phoen.]
(Pobun) [Yr ydym ni'n Gristnogion da, yn gwrando ar bregethau, yn rhoi elusennau, ac yn byw'n ddibriod.]
 
(Pobun) [Yr ydym ni'n Gristnogion da, yn gwrando ar bregethau, yn rhoi elusennau, ac yn byw'n ddibriod.]
(0, 3) 239 Ond sut, pan gano utgorn y Farn, y gelli di roi cyfrif clir am dy holl olud i Dduw, fel y caffech naill ai marwolaeth ai bywyd yn dragywydd?
(0, 3) 240 Fy mab, peth drwg ydyw marw, a pheth gwaeth fyth yw llygredigaeth dragywydd.
(Pobun) Nid wyf i eto brin ddeugain mlwydd oed, ac ni chaiff neb drwy orfod beri i mi beidio â'm pleserau daearol.
 
(Pobun) Nid wyf i eto brin ddeugain mlwydd oed, ac ni chaiff neb drwy orfod beri i mi beidio â'm pleserau daearol.
(0, 3) 242 A fynni di guddio dy ben yn y tywod, ac oni weli di'r angau, a ddichon syrthio arnat un adeg?
(Pobun) [Yr wyf yn ieuanc o galon ac yn iach drwodd a thro, a mynnaf fwynhau fy mywyd.
 
(Pobun) Fe ddaw'r amser yn ddigon buan pryd y bydd cymwys i mi edifarhau ac ymroddi.]
(0, 3) 245 [Y mae bywyd yn llifo heibio fel dwfr, ac nid yn hawdd y try'r meddwl.]
(Pobun) [Fy mam, diflas yw'r ymddiddan hwn i mi; dywedais eisoes nad oes gennyf heddiw mo'r egwyl.]
 
(Pobun) [Fy mam, diflas yw'r ymddiddan hwn i mi; dywedais eisoes nad oes gennyf heddiw mo'r egwyl.]
(0, 3) 247 [Fy mab annwyl!]
(Pobun) [Bryd arall, mi fyddaf yn ufudd iawn ac yn barod i'ch gwasanaethu.]
 
(Pobun) [Bryd arall, mi fyddaf yn ufudd iawn ac yn barod i'ch gwasanaethu.]
(0, 3) 249 [Y mae f'ymddiddan yn ddiflas ddigon gennyt ac y mae hynny yn dyblu fy nhristwch innau.
(0, 3) 250 Fy mab annwyl, y mae rhywbeth yn dywedyd wrthyf na byddaf i ddim yn hir eto gyda thi, baich arnat eto, efallai, am ryw chydig bach, ac yna canu'n iach a mynd oddi yma; ond eto byddi di dy hun ar ôl yma, fy mhlentyn heb neb i'w gynghori.]
(0, 3) 251 Felly, gwrando un gair eto, rhag dy flino ag ymddiddan hir—cofia'r Arglwydd dy Dduw, a hefyd roddion mawr Ei ras; y saith sagrafen sanct, [o'r rhai y daw pob lles i ni a chymorth i'n gwendid bawb ohonom ym mhob modd, a nerth i ni at daith y bywyd hwn].
(Pobun) Pa beth—
 
(Pobun) Pa beth—
(0, 3) 253 Yr wyt yn ŵr golygus, a chariad gwragedd wrth dy fodd.
(0, 3) 254 [Ac oni roes ein Prynwr ni, a wybu bopeth ar y ddaear, ac a wnaeth bopeth er ein lles, oni osododd Ef Sagrafen sydd yn newid y peth a fynni di ac yn ei droi o fod yn chwant i fod yn lendid?]
(0, 3) 255 A fynni di fyth ymdrôi mewn chwant a bod yn ddieithr i gyflwr glân briodas?
(Pobun) [Fy mam, mi wn yr ystori hon yn dda.]
 
(Pobun) [Fy mam, mi wn yr ystori hon yn dda.]
(0, 3) 257 [Eto, ni throes dy galon di ddim.]
(Pobun) [Ni ddaeth yr amser i hynny eto.]
 
(Pobun) [Ni ddaeth yr amser i hynny eto.]
(0, 3) 259 [Ac eto, ag angau mor agos!]
(Pobun) Nid wyf yn dywedyd nac ie na nage.
 
(Pobun) Nid wyf yn dywedyd nac ie na nage.
(0, 3) 261 Felly rhaid i minnau fod fyth mewn pryder.
(Pobun) Daw dydd eto yfory.
 
(Pobun) Daw dydd eto yfory.
(0, 3) 263 Pwy a ŵyr pwy a'i gwêl?
(Pobun) Peidiwch â phoeni heb achos, fe'm gwelwch yn ŵr priod eto, yn sicr.
 
(Pobun) Peidiwch â phoeni heb achos, fe'm gwelwch yn ŵr priod eto, yn sicr.
(0, 3) 265 Fy mab annwyl, am y gair yna, boed fy mendith arnat; [llawer o ddiolch am dy glywed yn addef peth mor dda].
(Pobun) [Nid sôn yr oeddwn am heddiw nac yfory.]
 
(Pobun) [Nid sôn yr oeddwn am heddiw nac yfory.]
(0, 3) 267 [Cyhyd ag na bo'r ewyllys yn erbyn hynny, bydd calon mam yn fodlon iawn lle ni chaffer ond y gair lleiaf a fo da.
(0, 3) 268 Nid yw dy fwriad ond bychan a gwan eto, ond y mae'n tueddu at beth sanctaidd] ac y mae'r ateb hwn a roddaist yn tynnu baich trwm oddi ar fy nghalon i.
(Pobun) Nos da, nos da, fy mam, gobeithio y cewch orffwyso'n dawel.
 
(Pobun) Nos da, nos da, fy mam, gobeithio y cewch orffwyso'n dawel.
(0, 3) 270 Mi gaf, fy mab annwyl; ac y mae i mi fel pe bai sain mor fwyn â sain pib a thelyn i'w chlywed yn adseinio yn d'eiriau di!
(0, 3) 271 Ni bu'r dyddiau hyn heb arwyddion a gweledigaethau o'r fath i mi.
(0, 3) 272 Cymeraf hwy fel rhybudd y byddaf innau farw yn fuan iawn.
(Pobun) Fe glywaf innau adsain felly hefyd!
 
(Gwas 1) A fynnech fynd adref i'ch gwely yn lle mynd mor gynnar i'r offeren?
(0, 12) 1001 A ydym ni ynteu mor hwyr?
(0, 12) 1002 A ydyw'r offeren wedi dechrau eisoes?
(0, 12) 1003 Mi glywaf hefyd seiniau gogoneddus, fel pe bai'r angylion oll yn canu!
(Gwas 1) Nid ydym yn hwyr o gwbl, ac ni chlywaf i ddim, nac uchel nac isel.
 
(Gwas 1) Nid ydym yn hwyr o gwbl, ac ni chlywaf i ddim, nac uchel nac isel.
(0, 12) 1005 Yr wyf i'n ei glywed a gwn yn fy nghalon mai canu nefol yw, canant ger bron gorsedd Dduw.
(0, 12) 1006 Oblegid fy annwyl fab y canant, yr wyf yn teimlo bod ei enaid wedi ei iachâu yn yr awr dywyll hon o'r nos.
(0, 12) 1007 [Cymodwyd ef â'r Arglwydd Dduw, am hynny, marw a allaf innau yn ddedwydd a pharod.
(0, 12) 1008 Gwrandawyd ar fy ngweddi fawr,] a gwn fy mod yn mynd fy hun ger bron gorsedd fy Nghrewr, ac y caf yno fy mab annwyl.
(0, 12) 1009 Ar fyr y gollyngi dy wasanaethferch i mewn i'th lawenydd fry.
(0, 12) 1010 Amen.